Dyma gyfarfod ar gyfer Cylch Trafod Materion Anabledd Cwm Cynon, sy'n agored i holl drigolion Rhondda Cynon Taf.
Yn ystod y cyfarfod yma, byddwn ni'n trafod eitemau sy'n ymwneud ag ardal Cwm Cynon yn Rhondda Cynon Taf.
Lleoliad ac amser
Cynhelir y cyfarfod yma ddydd Iau 7 Tachwedd 2024 rhwng 11.45am a 1.15pm yn Cynon Linc, Stryd Seymour, Aberdâr, CF44 7BD.
Manylion Cyswllt
Am ragor o wybodaeth neu i roi gwybod i ni y byddwch chi’n bresennol yn y cyfarfod, ffoniwch y Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 01443 444529 neu e-bostiwch [email protected].