|
Sesiynau Llesiant gyda Mind (Cwm Taf Morgannwg) Mae'r sesiynau yma'n archwilio ystod o bynciau iechyd meddwl a lles a byddan nhw'n rhoi gwahanol strategaethau ac offer i'ch helpu chi i reoli eich teimladau Mae manylion cynnwys y sesiynau, dyddiadau, amseroedd a lleoliadau yn RhCT i'w gweld yn y rhestr isod: |
||
|
Gweithdy gorbryder a straen Archwiliwch ddealltwriaeth ddyfnach o'r hyn sy'n achosi gorbryder a straen. Mae pobl dan straen yn profi symptomau meddyliol a chorfforol, fel anniddigrwydd, dicter, blinder, poen yn y cyhyrau, trafferthion treulio ac anhawster cysgu. Mae gorbryder, ar y llaw arall, yn cael ei ddiffinio gan bryderon parhaus, gormodol sydd ddim yn diflannu hyd yn oed yn absenoldeb straen. Byddwn ni'n defnyddio technegau i'n helpu i wella ein lefelau o orbryder a straen, mewn amgylchedd tawel a chyfeillgar.
Gweithdy Iselder Archwiliwch wahanol agweddau o iselder. Dewch i weld sut mae'n effeithio arnon ni, dysgwch dechnegau anadlu dwfn, cwisiau ac astudiaeth achos. Bydd yr amgylchedd yn un cyfeillgar, hamddenol.
Gweithdy cwsg Mae 7.5 miliwn o bobl yn y DU yn cael 5 awr neu lai o gwsg. Byddwn ni'n edrych ar yr achos sylfaenol a'r atebion, wrth ddysgu sut i ymlacio a gwella ansawdd eich cwsg.
Gweithdy Bwyd a Hwyliau Archwiliwch y berthynas rhwng yr hyn rydych chi'n ei fwyta a sut rydych chi'n teimlo. • Teimladau Cadarnhaol, Meddwl Cliriach, Mwy o Egni a Hwyliau Tawelach
|
Event
Well-Being Sessions with Mind (Cwm Taf Morgannwg)/Sesiynau Llesiant gyda Mind 11th January 11 Ionaw
- Taff
- Health & wellbeing
- Mindfulness
- Mental health
- Penycoedcae