Skip to content
This activity is not live

Event

Teithiau Cerdded Lles o Orsafoedd

Posted by
 
Transport for Wales
on 6th December 2022

Please note this activity has expired.

Interest
  • Walking
Accessibility
  • Open to all

Mae'r trên yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddarganfod llwybrau golygfaol yn y Cymoedd a Bro Morgannwg.

Fel rhan o'n menter 'Cymunedau Cysylltiedig', nod ein teithiau cerdded lles yw rhoi hyder i bobl nad ydynt efallai'n teithio’n rheolaidd i fwynhau taith gerdded hamddenol o un o chwe gorsaf ar y rhwydwaith.

Bydd aelodau o dîm Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru yn cyd-fynd â'r holl deithiau cerdded a gellir eu trefnu ymlaen llaw drwy e-bostio [email protected]

Dyma rai o’r cyrchfannau sy’n rhan o’r rhaglen:

  1. Taith gylchol o Aberdâr i Barc Aberdâr

 Cyrchfan: Gorsaf Aberdâr

Pellter: 2.6 milltir

Hyd: 1½ awr

Taith gerdded hamddenol o orsaf reilffordd Aberdâr trwy ganol y dref i Barc Aberdâr.  Mae'r daith gerdded ar balmentydd ac yn wastad gan amlaf ar wahân i ran lled serth o ganol y dref i'r Parc.

Darganfyddwch fwy am Barc Aberdâr yma

  1. Taith gylchol Ynys y Barri

Cyrchfan: Gorsaf Ynys y Bari

Pellter: 2.8 milltir

Hyd: 1½ awr

Taith gerdded hamddenol o orsaf Ynys y Barri o amgylch Bae Whitmore gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf a Gogledd Dyfnaint.  Mae'r daith gerdded ar balmentydd neu darmac gyda rhywfaint o lethrau.

Darganfyddwch fwy am Ynys y Barri yma

  1. Taith gylchol Bae Caerdydd

Cyrchfan: Gorsaf Bae Caerdydd

Pellter: Hyd at 2.8 milltir

Hyd: 1½ awr

Taith hamddenol o orsaf reilffordd Bae Caerdydd i Ganolfan Mileniwm Cymru, Adeilad y Pierhead, y Senedd, Cofeb Capten Scott a golygfeydd ar draws y Morglawdd i Benarth.

Mae'r daith gerdded ar balmentydd neu darmac heb unrhyw lethrau sylweddol.

Dewch i ddarganfod mwy am Fae Caerdydd yma

  1. Taith gylchol Parc y Rhath

Cyrchfan: Gorsaf Lefel Isaf Y Mynydd Bychan

Pellter: 2.5 milltir

Hyd: 1½ awr

Taith gerdded hamddenol o orsaf Lefel Isel Y Mynydd Bychan i Barc prydferth y Rhath; taith gerdded 10 munud i lawr yr allt o'r orsaf.

Mae'r Parc yn cynnwys llyn 30 erw lle gall ymwelwyr weld sawl math o adar, Cofeb Capten Scott a’r Ardd Fotaneg.

Mae'r daith gerdded ar balmentydd neu darmac ac yn wastad o amgylch y llyn.  Mae gan y ffordd yn ôl ac ymlaen i’r orsaf reilffordd lethr lled serth am bellter o tua 400 metr.

Darganfyddwch fwy am Barc y Rhath yma

  1. Taith gylchol glan y môr Penarth

Cyrchfan: Gorsaf Penarth

Pellter: 1.7 milltir

Hyd: 1 awr

Taith gerdded hamddenol o orsaf Penarth i'r pier a'r promenâd gerllaw. Mae'r daith yn cynnwys Parc Alexandra, Pier Penarth a'r promenâd gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren i Ynys Ronech ac Ynys Echni.

Mae'r daith gerdded ar balmentydd neu darmac ac i lawr yr allt am yr hanner milltir gyntaf o'r orsaf.

Mae'r daith gerdded ar hyd glan y môr yn wastad. Wrth ddychwelyd i'r orsaf, mae gan y llwybr troed sy'n arwain trwy'r parc lethr gymedrol i serth (mewn rhannau) am hanner milltir

Darganfyddwch fwy am Benarth yma

  1. Gwarchodfa Natur Fferm y Goedwig a Chamlas Sir Morgannwg

Cyrchfan: Gorsaf Radur

Pellter: 2.8 milltir

Hyd: 1½ awr

Taith gerdded hamddenol o orsaf reilffordd Radur ar hyd Llwybr Taf i Warchodfa Natur Fferm Y Goedwig a Chamlas Sir Forgannwg.

Mae'r daith yn cynnwys y gored a gwaith trydan dŵr Afon Taf, ymweliad â chuddfannau adar a’r llwybr ar hyd camlas hanesyddol Sir Forgannwg.

Mae'r daith gerdded gan fwyaf ar wyneb tarmac neu arwyneb caled gydag ambell i ardal fwdlyd yn ystod tywydd gwlyb.  Mae'n wastad ar wahân i'r rhan fer o orsaf Radur, ar draws pont yr afon at Lwybr Taf.

Darganfyddwch fwy am Warchodfa Natur Fferm y Goedwig yma

Gwybodaeth allweddol

  1. Mae teithiau cerdded ar gael i sefydliadau sy'n cynnig cymorth i unigolion yn y gymuned ac mewn grŵp o hyd at 15 o bobl
  2. Rhaid i gyfranogwyr fod yn aelodau o'r grŵp cymunedol sy'n dymuno cymryd rhan
  3. Rhaid i bob grŵp eu cynrychioli ai hebrwng gan eu cynrychiolydd / cydlynydd swyddogol yn ystod y daith trên a cherdded
  4. Mae teithio ar drên yn rhad ac am ddim yn y ddau gyfeiriad
  5. Arweinir bob taith gerdded gan gynrychiolwyr o Dîm Rheilffordd Gymunedol Trafnidiaeth Cymru
  6. Mae gan bob trên le penodol ar gyfer dwy gadair olwyn
  7. Mae pellteroedd a hyd y teithiau cerdded yn fras a gellir eu haddasu yn ôl y galw
  8. Anogir cyfranogwyr i wisgo esgidiau priodol a bod yn ymwybodol y gall tywydd newid yn ystod y daith gerdded
  9. Mae’n bosib i deithiau cerdded newid oherwydd tywydd garw neu am resymau gweithredol
  10. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Danielle [email protected]
   

- 31st December 2023

Cost : Yn rhad

Booking instructions

Cysylltwch a [email protected]


Would you like to save your progress?


Note: Saving as a draft means your activity will be available for you to edit in your dashboard.​

Selecting delete marks your activity as deleted in your dashboard.​

Please sign in or register

Delete my account

Selecting this option will permanently delete your account data. You will no longer have access to your account or any associated information.

If you want to request a copy of your data, please wait until you receive your data before selecting this option.

Connect with __XXX__

Search Connect RCT

X hours given for:
Title

Invite to circle

Share the magic link:

Anyone who follows this link will auto-magically join your circle!

Or share on WhatsApp

Share the auto-magic link in a WhatsApp group.

Book your place

Send to a friend

Report this activity?

Help us keep the website safe for everyone to enjoy. Please use this form to tell us what is wrong with this post. Someone will take a look as soon as possible to resolve the issue.

This activity is not live

You can still view the page but not interact with the activity.

Cookies on Connect RCT

We use cookies to give you the best online experience.

Select 'Accept all' to agree to all cookies.

Some cookies are essential. Others can be controlled in your cookie preferences.