Cyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth go iawn
Mae Gwrando a Chysylltu yn wasanaeth gwrando dros y ffôn ar gyfer pobl hŷn sy’n teimlo’n unig ac ynysig. Mae’r gwasanaeth yn gyfle i unigolion i siarad a derbyn cefnogaeth gyda materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Beth fydda i'n ei wneud fel Gwirfoddolwr Gwrando a Chysylltu?
Byddwch yn cynnig clust i wrando ar alwyr o gysur eich cartref eich hun.
Am bwy rydym ni'n chwilio?
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd am wneud gwahaniaeth a chysylltu â phobl hŷn. Rhaid bod gan wirfoddolwyr fynediad at ffôn clyfar, gliniadur, neu lechen gyda chlustffonau i ymuno â’n gwasanaeth Gwrando a Chysylltu dros y ffôn.
Rydym yn awyddus i ddenu gwirfoddolwyr sy’n gallu neilltuo tair awr yr wythnos. Darperir hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus gan Age Cymru.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio CAPlisten@agecymru.org.uk neu ffoniwch 07425 422 683 i gael mwy o wybodaeth, neu cliciwch yma i lenwi ffurflen mynegi diddordeb.