Bore da bawb,
Dyma atodi manylion am adeiladau'r Cyngor sydd ar gael yn rhan o broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol trwy drosglwyddo prydles.
- Canolfan Chwaraeon Llanilltud Faerdref
- Canolfan Cymuned Rhodfa'r Cambrian (Gilfach-goch)
Adeiladau - Cyfleoedd trosglwyddo asedau
Byddwch cystal ag anfon y manylion yma at unrhyw bartneriaid / sefydliadau cymunedol, mentrau cymdeithasol neu Gynghorau Tref a Chymuned a allai fod â diddordeb yn y broses trosglwyddo prydles y naill adeilad neu'r llall er mwyn darparu gwasanaethau sydd o fudd i'r gymuned leol.
Bydd argaeledd yr adeiladau yma'n cael ei hysbysebu am 30 diwrnod o 1/12/23 a bydd angen i unrhyw bartïon sydd â diddordeb lenwi'r ffurflen “Mynegi Diddordeb” a'i hanfon yn ôl trwy e-bost i [email protected]. O ganlyniad i gyfnod y Nadolig, byddwn ni'n ychwanegu 1 wythnos at y cyfnod mynegi diddordeb. Rhaid mynegi diddordeb erbyn 8/1/24 fan bellaf.
Nodwch: Peidiwch â phostio unrhyw ffurflenni i swyddfeydd y Cyngor gan fod aelodau o staff yn gweithio gartref.
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, ffoniwch Garfan Datblygu'r Gymuned "RhCT Gyda'n Gilydd" ar 01443 425368.
Cofion cynnes
Debra
Debra Hanney
Uwch Swyddog Datblygu'r Gymuned
RhCT Gyda'n Gilydd
Gweithio o Gartref
01443 425637 | 07880 044520
e-bost [email protected]