Join Healthy Hillsides for a free environmental education walking event. We’ll take a walk-through part of Cwm Clydach Country Park talking about hillside fire safety, grazing management, and wildlife. We will include livestock behaviour as well as the importance of how we should behave around livestock, hopefully seeing ponies while we’re out! The walk is only 1mile (1.6km) but there is some challenging rocky terrain (there is the option to turn round halfway through). Please wear sturdy footwear and appropriate clothing for the weather conditions and bring your own food and drink. Children must be accompanied by an adult. Well trained dogs permitted.
https://www.eventbrite.co.uk/e/hillside-safety-livestock-intro-walk-tickets-625393557967
Ymunwch am ddigwyddiad cerdded addysgiadol amgylcheddol am ddim. Byddwn yn cerdded drwy ran o Barc Gwledig Cwm Clydach gan siarad am ddiogelwch tân ar y bryniau, sut i reoli pori, a bywyd gwyllt yn fwy cyffredinol. Byddwn ni'n trafod ymddygiad da byw yn ogystal â phwysigrwydd ymddwyn mewn ffordd benodol o’u cwmpas - a gobeithio y gwelwn ni ferlod tra rydyn ni allan! Dim ond 1 filltir (1.6 cilomedr) yw'r daith gerdded, ond mae rhywfaint o dir creigiog heriol (gallwch ddewis troi’n ôl hanner ffordd). Gwisgwch esgidiau cadarn a dillad priodol ar gyfer amodau'r tywydd a dewch â'ch bwyd a'ch diod eich hun. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Caniateir cŵn sydd wedi'u hyfforddi'n dda.