Dyma gyfarfod ar gyfer Cylch Trafod Materion Anabledd RhCT ar y Cyd, sy'n agored i holl drigolion Rhondda Cynon Taf.
Yn ystod y cyfarfod yma, byddwn ni'n trafod eitemau sy'n ymwneud ag ardal gyfan Rhondda Cynon Taf.
Lleoliad ac amser
Cynhelir y cyfarfod yma ar 10 Hydref 2024 rhwng 10.30am a 12.00pm yn YMa, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TS.
Manylion Cyswllt
Am ragor o wybodaeth neu i roi gwybod i ni y byddwch chi’n bresennol yn y cyfarfod, ffoniwch y Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 01443 444529 neu e-bostiwch [email protected].