Dyma gyfarfod ar gyfer Cylch Trafod Materion Anabledd Cwm Rhondda, sy'n agored i holl drigolion Rhondda Cynon Taf.
Yn ystod y cyfarfod yma, byddwn ni'n trafod eitemau sy'n ymwneud ag ardal Cwm Rhondda yn Rhondda Cynon Taf.
Lleoliad ac amser
Cynhelir y cyfarfod yma ddydd Iau 21 Tachwedd rhwng 10.30am a 12.00pm yng Nghanolfan Hamdden Rhondda Fach, Stryd y Dwyrain, Tylorstown, CF43 3HR.
Manylion Cyswllt
Am ragor o wybodaeth neu i roi gwybod i ni y byddwch chi’n bresennol yn y cyfarfod, ffoniwch y Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 01443 444529 neu e-bostiwch [email protected].