A baby cries in a bin at night - as a Faceless Man carves land for profit; a tall tower rises - as the World Tree shakes; and the fate of the earth hangs upon a single silken spider's thread.
Binderella is a tale for our times, the wild birth-myth of an Anti-Goddess who challenges the forces of greed and despair that seek to steal our future from us. This anarchistic wonder story peeks through the cracks in our society, fusing an environmental rallying cry with an uplifting call for compassion and courage in this age of crisis.
The Ragged Storytelling Collective; Kestrel, Heulwen and Magpie, weave their unique patchwork vision, stitching the raw energy of punk storytelling with a haunting thread of Welsh folk melody and song in this fiercely modern epic.
Originally developed through Beyond the Border Storytelling Festival's New Voices scheme in 2021 and made possible through investment from Arts Council Wales National lottery Funding. With creative support from internationally acclaimed storyteller Daniel Morden, and leading Welsh folk musician Oliver Wilson-Dickson, this show will leave you spellbound.
Kestrel is a dynamic and passionate performer with a unique vision. Binderella is a compelling mash-up of memoir, myth and the Matrix. A must-see! -Daniel Morden
AGE GUIDANCE
Suitable for ages 12+
-------
Mae babi’n crio mewn bin yn y nos - wrth i Ddyn Diwyneb werthu tir am elw; mae tŵr tal yn
codi - wrth i Goeden y Byd ysgwyd; ac mae tynged y byd yn dibynnu ar un edau sidan o we
corryn.
Mae Binderella yn stori ar gyfer ein cyfnod ni, chwedl genedigaeth wyllt Gwrth-dduwies sy’n
herio grymoedd trachwant a digalondid sy’n ceisio dwyn ein dyfodol oddi arnom. Mae’r stori
ryfeddol anarchaidd hon yn rhoi cip i ni trwy’r craciau yn ein cymdeithas, gan gyfuno galwad i
ymgyrch amgylcheddol gyda galwad ddyrchafol am gydymdeimlad a dewrder yn y cyfnod hwn
o argyfwng.
Yn y perfformiad cyntaf hwn mae’r Ragged Storytelling Collective; Kestrel, Heulwen a Hazel,
yn plethu eu gweledigaeth yn glytwaith unigryw, trwy bwytho egni chwedleua pync gydag
edau deimladol o alaw werin a chân Gymreig yn yr epig chwyrn o fodern hon.
Datblygwyd y gwaith yn wreiddiol trwy gynllun Lleisiau Newydd Gŵyl Chwedleua Beyond the Border yn 2021 ac fe’i datblygwyd ymhellach trwy fuddsoddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arian y Loteri Genedlaethol. Gyda chefnogaeth greadigol gan y chwedleuwr adnabyddus yn rhyngwladol, Daniel Morden, a’r cerddor gwerin amlwg o Gymru, Oliver Wilson Dixon, bydd y sioe yn eich cyfareddu.
Mae Kestrel yn berfformiwr deinamig ac angerddol gyda gweledigaeth unigryw. Mae
Binderella yn gyfuniad difyr o atgofion, chwedlau a’r Matrix. Rhaid i chi ei gweld!