Fel rhan o fenter 'Cymunedau Cysylltiedig' Trafnidiaeth Cymru ac, mewn partneriaeth â Chlwb Bowlio Dan Do Taf-Elái, rydym yn cynnig cyfle i sefydliadau cymunedol gymryd rhan mewn 'sesiynau blasu' yn y clwb bowlio dan do ym Mhontypridd.
Bydd sesiynau ar gael ar ddydd Mawrth a Mercher o ganol Medi i Ebrill rhwng 1200 a 1400 (cyn belled â bod sesiynau ar gael). Bydd aelodau o Glwb Bowlio Dan Do Taf Elái ar gael i gynnig help ac arweiniad i gyfranogwyr.
Yn ogystal â bod yn ymarfer corff gwych, mae bowlio yn cynnig manteision cymdeithasol fel cwrdd â ffrindiau newydd a helpu gyda lles meddyliol. Nid oes angen profiad bowlio blaenorol.
Yn ystod y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn cael cyflwyniad ar fenter 'Hyder i Deithio' - Trafnidiaeth Cymru gyda'r nod o roi'r wybodaeth, profiad a'r hyder i bobl deithio ar y trên.
Wedi'i ddarparu gan ein Llysgennad Rheilffyrdd Cymunedol, bydd cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau sy'n gysylltiedig â theithio ar drên.
Oes angen archebu?
Oes. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Llysgennad Rheilffyrdd Cymunedol Danielle Hopkins i drafod dyddiadau a threfniadau teithio.
Sut mae teithio i Bontypridd?
Bydd Trafnidiaeth Cymru'n darparu teithiau trên am ddim i Bontypridd o orsaf o ddewis y grŵp ac yn cadw cwmni i’r cyfranogwyr ar hyd y daith ddwyffordd.
Faint o bobl all fynychu?
Gall hyd at 12 person fynychu pob sesiwn. Rhaid i'r cyfranogwyr fod yng nghwmni person(au) neu gydlynydd arweiniol sy'n cynrychioli'r sefydliad sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd.
Pa mor bell yw'r clwb bowlio o orsaf reilffordd Pontypridd?
Mae'r clwb bowlio yn 500 metr neu rhyw 6 munud o gerdded o'r orsaf. Mae wedi ei leoli ar Ffordd Gelliwastad.
Oes angen i mi ddod â bowls fy hun?
Na. Bydd y Clwb yn darparu bowls i chi.
Pa fath o esgidiau ddylwn i eu gwisgo i chwarae bowls?
Gwisgwch esgidiau gyda sodlau fflat, medal, di-batrwm. Gellir gwisgo sliperi heb sodlau patrymog hefyd
Oes lluniaeth ar gael yn y clwb bowls?
Oes. Mae gan y clwb gaffi bach lle mae modd prynu diodydd a lluniaeth ysgafn.
Cysylltwch â Danielle Hopkins yn [email protected] a fydd yn hapus i roi rhagor o wybodaeth i chi ac ateb unrhyw ymholiadau.