Mae carfan Cymorth Cynnar a Rhaglenni Cymunedol – RhCT Gyda'n Gilydd yn cynnig Gweithdai Hyfforddi Rheoli Safleoedd am ddim ym mis Chwefror a mis Mawrth 2026. Trefnwyd y sesiynau yma mewn ymateb i adborth gan denantiaid a grwpiau cymunedol a fynychodd gyfarfod Rhwydwaith Cyfleusterau Cymunedol RhCT yn ddiweddar.
Diben y Gweithdyai
Nod y sesiynau hyfforddi 2 awr yw:
- Darparu'r gwybodaeth diweddaraf am gyfrifoldebau rheoli adeiladau sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth a chanllawiau iechyd a diogelwch.
- Rhoi’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar wirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr i gyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r safle.
- Cyfeirio cyfranogwyr at ffynonellau cymorth a chefnogaeth i gyflawni rhwymedigaethau cydymffurfio eu hadeiladau yn effeithiol.
Mae'r gweithdai yma'n addas ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am reoli cyfleuster cymunedol neu hamdden, boed hynny fel gwirfoddolwr, aelod o staff neu ymddiriedolwr.
Dyddiadau a Lleoliadau'r Gweithdy
|
Dyddiad: |
Lleoliad |
Amser |
|
Dydd Iau 26 Chwefror 2026 |
Canolfan Hamdden Rhondda Fach |
5.30–7.30pm |
|
Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026 |
Canolfan Hamdden Sobell |
1-3pm |
|
Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026 |
Canolfan Hamdden Tonyrefail |
5.30–7.30pm |
Sut i Gadw Lle
Mae modd i gyfranogwyr gofrestru trwy'r ddolen cadw lle ar-lein: YMUNWCH Â'N HYFFORDDIANT RHEOLI SAFLEOEDD AM DDIM
Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y sesiynau yma, dim ond i chi roi gwybod inni ymlaen llaw.
Manylion Cyswllt
Os oes angen ateb i gwestiwn neu wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Charfan Cymorth Cynnar a Rhaglenni Cymunedol – RhCT Gyda’n Gilydd trwy ffonio 01443 425368 neu e-bostio [email protected]
Bydden ni'n ddiolchgar iawn pe gallech rannu'r e-bost yma gyda grwpiau cymunedol yn RhCT.