Ymunwch â Llethrau Llon ac Eglwys Uno Llanfair Penrhys ar gyfer digwyddiad cymunedol Jac y Neidiwr!
Mae Jac y Neidiwr yn rhywogaeth ymledol sydd, wedi'i adael, yn gordyfu ac yn cyfyngu ar ddatblygiad rhywogaethau brodorol ar lethrau ein bryniau Cymreig. Ymunwch â Tara o'r Ymddiriedolaeth Natur i ddysgu pam a sut y dylech chi ddelio gyda Jac y Neidiwr i adfywio'r llethrau lle rydych chi'n byw. Bydd y gweithgaredd yn cynnwys cerdded y llethrau i adnabod Jac y Neidiwr a thynnu neu dorri'r planhigion cyn iddynt flodeuo a thaenu eu hadau.
Ble? Llethr Penrhys Fawr.
Pryd? Dydd Mawrth, Awst 23ain am 10yb - 1yp.
Man cyfarfod? Maes parcio'r Forwyn Fair.
Deunyddiau sydd eu hangen: Esgidiau cadarn priodol ar gyfer tir anwastad a llethrog a dillad addas ar gyfer tywydd amrywiol, ynghyd â dŵr i gadw'n hydradol.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i:
Mynd tu allan
Cyfarfod pobl newydd
Dysgu sgiliau newydd
Cyfrannu'n weithredol at reoli cefn gwlad
Gwella eich iechyd corfforol
Gwella eich lles
Rhad ac am ddim
Addas am blant
Yn anffodus, dim cŵn er diogelwch eu hunain. ?❌
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Tara o Lethrau Llon ar 07855 009622 neu anfonwch e-bost atom: [email protected]