Spectacle Theatre invites secondary schools, youth groups, and community organisations across Rhondda Cynon Taf to book free, bilingual (English & Welsh) drama-based workshops.
These fun, participatory sessions support emotional wellbeing, healthy relationships, and social confidence in young people. They are Curriculum for Wales aligned (Four Purposes) and linked to Health and Wellbeing.
Why It Matters
Post-pandemic, young people face real challenges—social media pressure, identity struggles, and understanding boundaries. These workshops offer practical, inclusive support that meets young people where they are.
What’s Included
- Interactive session (up to 2 hours) for one class or group (~30 participants)
- Led by experienced facilitators, rooted in lived experience
- Welsh and English language delivery
- Topics include identity, digital pressures, healthy relationships
- For ages 11+, including ALN-friendly delivery
- Free of charge (paid for by Social Prosperity Fund)
- We come to you—available across RCT
Book Now
Book Now for workshops between Monday the 15th September and Friday the 5th December, 2025.
Workshops are first come, first served.
What Young People Say
“This is my life in more ways than not. Thank you, Spectacle, for giving me the space to share my experiences and feel supported.”
Datblygu Cydberthnasau Iach a Chymunedau Cryfach drwy Ddrama
Mae Theatr Spectacle yn gwahodd ysgolion uwchradd, grwpiau ieuenctid, a sefydliadau cymunedol ar draws Rhondda Cynon Taf i archebu gweithdai drama dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) am ddim.
Mae'r sesiynau hwyliog, cyfranogol yma’n cefnogi llesiant emosiynol, cydberthnasau iach, a hyder cymdeithasol mewn pobl ifanc. Maen nhw’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru (y Pedwar Diben) ac wedi'u cysylltu â Iechyd a Llesiant.
Pam mae'n bwysig
Ers y pandemig, mae pobl ifanc yn wynebu heriau go iawn—pwysau o ran y cyfryngau cymdeithasol, anawsterau hunaniaeth, a deall ffiniau. Mae'r gweithdai yma’n cynnig cefnogaeth ymarferol a chynhwysol sy'n cyrraedd pobl ifanc lle bynnag maen nhw.
Beth sydd wedi’i gynnwys
- Sesiwn ryngweithiol (hyd at ddwyawr) ar gyfer un dosbarth neu grŵp (~30 o gyfranogwyr)
- O dan arweiniad hwyluswyr profiadol, ac wedi'i gwreiddio mewn profiad byw
- Wedi’i chyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg
- Mae'r pynciau'n cynnwys hunaniaeth, pwysau digidol, cydberthnasau iach
- Ar gyfer pobl ifanc 11+ oed, gan gynnwys darpariaeth sy'n addas ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol
- Am ddim (bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn talu)
- Fe ddown ni atoch chi—ar gael ar draws Rhondda Cynon Taf
Archebwch
Archebwch nawr ar gyfer gweithdai rhwng dydd Llun 15 Medi a dydd Gwener 5 Rhagfyr, 2025.
Mae’r gweithdai ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud
“Yn y bôn dyma fy mywyd i. Diolch i chi Spectacle am roi’r gofod i fi rannu fy mhrofiadau a theimlo cymaint o gefnogaeth.”