Croeso i Cysylltu Rhondda Cynon Taf.
Dyma’r lle sy’n cysylltu pobl, cymunedau, grwpiau a sefydliadau yn Rhondda Cynon Taf.
Lle gall pobl gysylltu, rhannu gwybodaeth a chefnogi ei gilydd.
Ewch ar daith croesawu Cofrestru
Dyma’r llwyfan sydd am ddim i bawb i gael dod o hyd i wybodaeth am wirfoddoli, Digwyddiadau cymunedol, gweithgareddau, cyfleusterau a gwasanaethau ar draws RhCT.
Beth allwch chi wneud ar y wefan hon?

Dod o hyd i ddigwyddiadau lleol
Mae ein nodwedd digwyddiadau yn caniatáu i chi ddod o hyd i, neu rannu gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau yn eich cymuned. Gallwch greu digwyddiadau ailadroddus yn hawdd a’u rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol…darllenwch ycanllaw llawn.

Dod o hyd i gymorth
Mae ein cyfeirlyfr yn caniatáu i chi ddod o hyd i neu rannu gwybodaeth ynglŷn â’r gwasanaethau neu grwpiau cymdeithasol yn eich cymuned. Mae’n hawdd i'w bori ac i ychwanegu rhestrau newydd iddo…darllenwch ycanllaw llawn.

Cymryd rhan mewn arolygon
Mae arolygon yn galluogi cymunedau neu gydweithwyr i rannu eu barn, gosod eu heriau eu hunain a phleidleisio dros eu hoff syniadau. Gallwch…ddarllen ycanllaw llawn.
Pwy ydym ni
Cafodd y llwyfan hwn ei sefydlu gan Interlink RhCT, yn gweithio gyda’r gymuned a’r sector gwirfoddol a’n partneriaid strategol, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Ein gwerthoedd
Cysylltu RhCT:
- mae’n gyfeillgar, agored a hygyrch ac yn croesawu pawb;
- mae’n cynnig gwybodaeth sydd yn gywir a diweddar;
- mae’n le diogel lle mae pobl yn gyfartal ac mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu.
Ein gweledigaeth
Cysylltu RhCT fydd y man diofyn i fynd iddo yn RhCT lle gall pawb ddod o hyd i wybodaeth berthnasol a diweddar ar:
- Weithgareddau lleol, Digwyddiadau a chyfleusterau;
- Gwybodaeth leol, cyngor a chyfarwyddyd;
- Cyfleoedd gwirfoddoli lleol anffurfiol a ffurfiol;
- Cysylltiadau, lle gall pobl a sefydliadau gynnig a chael cefnogaeth anffurfiol o’i gilydd.
Ein nodau
Cyswllt RhCT fydd y man diofyn ar gyfer:
- Gwella’r ffordd maen nhw’n teimlo
- Gwirfoddoli yn eu cymuned leol, nail ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol
- Gwybod mwy am weithgareddau, Digwyddiadau a chyfleusterau yn y gymuned
- Cysylltu, cynnig a chael cefnogaeth anffurfiol o’i gilydd
- Dod o hyd i wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd
- Cysylltu’n anffurfiol mewn lleoliad diogel gyda phobl, grwpiau a gweithgareddau perthnasol yn eu cymuned
- Canfod gwybodaeth hygyrch a diweddar
- Dod o hyd i gymuned y gallant deimlo’n rhan ohono.
- Hyrwyddo gweithgareddau, digwyddiadau a chyfleusterau cymunedol
- Cael gwybod am yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud, rhannu a datblygu syniadau a gweithio gyda’i gilydd
- Recriwtio gwirfoddolwyr
- Recriwtio pobl i fynychu gweithgareddau, Digwyddiadau a chyfleusterau
- Cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gymunedol
Does gan bobl ddim llwyfan lle gallant chwilio am yr hyn sydd ar gael yn lleol.
Does dim llwyfannau sydd yn cynnig ystod eang o wybodaeth hygyrch a diweddar.
Does dim llwyfan unigol ar gael i gefnogi gwirfoddoli anffurfiol.
- Er mwyn rhoi gwybodaeth leol a diweddar i ychwanegu gwerth i lwyfannau cenedlaethol fel InfoEngine (Dewis) a Gwirfoddoli yng Nghymru
- Hyrwyddo gwybodaeth leol, cyngor a chyfarwyddyd
- Helpu unigolion maen nhw’n ei gefnogi i ddod o hyd i wybodaeth am weithgareddau, digwyddiadau a chyfleusterau lleol
Gwybod mwy
Newyddion diweddaraf
Parhewch i gael eich diweddaru gydag uchafbwyntiau o dîm y llwyfan.
Danfonwch neges at unrhyw aelod o’r tîm isod ar gyfer ymholiadau mewn perthynas â Cysylltu RhCT: