Drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol, rydym yn adlewyrchu Strategaeth 'Cymunedau Cysylltiedig' Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag unigrwydd, unigrwydd cymdeithasol ac adeiladu cymdeithas fwy cysylltiedig lle gall pawb chwarae eu rhan.
Rydym yn gwneud hyn trwy gyflwyno teithiau hygyrch pwrpasol i helpu grwpiau o bobl o bob oed fagu hyder wrth ddefnyddio'r rheilffordd.
Mae angen i ni ddeall y rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio'r trên. Efallai nad yw rhai pobl erioed wedi teithio ar y trên neu ddim yn teithio’n aml iawn - rydyn ni yma i helpu.
Sut mae'n gweithio?
Rydym yn ymgysylltu â sefydliadau yn y gymuned i godi ymwybyddiaeth an gynllun 'Cymorth Teithwyr' y diwydiant rheilffyrdd.
Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i bobl a allai fod angen cymorth i gynllunio eu taith, yn yr orsaf neu ar y trên. Mae manylion ein cynllun 'Cymorth i Deithwyr' ar gael yma.
Y cam cyntaf fydd cyflwyniad 20 munud sy’n rhoi trosolwg o'r cynllun ‘Cymorth i Deithwyr’ gan ddilyn gyda trafodaeth a sesiwn holi ac ateb gyda chyfranogwyr.
Yna, byddwn yn gwahodd cyfranogwyr i ymuno â ni ar daith gyfarwyddo* lle byddwn yn trafod sefyllfaoedd megis sut i brynu tocyn, lle i ddod o hyd i wybodaeth amserlen a phwy i ofyn am gymorth os oes angen.
Mae'r teithiau'n cael eu goruchwylio ac fel arfer yn para hyd at awr.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Danielle a Geraint yn y Tîm Rheilffyrdd Cymunedol - community@tfw.wales
* Mae teithiau cyfarwyddo ar gael ar gyfer grwpiau o hyd at 12 o bobl, a bydd canllawiau Covid 19 yn berthnasol bryd hynny